Body Ballancer
Gyda dillad arbennig wedi’u cynllunio i chwyddo’n ysgafn, gallwch chi fwynhau tylino hyfryd sy’n ysgogi eich system lymffatig wrth orwedd yn ôl ac ymlacio.
​
Gellir mynd i’r afael â nifer o bryderon iechyd ac esthetig yn effeithiol gyda Body Ballancer trwy ddefnyddio egwyddorion tylino â llaw sydd wedi eu profi i ddraenio lymffatig. Gall rhain gynnwys cellulite, problemau cadw dŵr, colli pwysau, dadwenwyno, tynhau, tôn croen gwael a threuliad swrth a all achosi chwyddo a bod yn anghyffyrddus.
​
​

1
Ardaloedd triniaeth Body Ballancer
Mae’r trowsus Body Ballancer yn trin:
-
Bol
-
Cluniau
-
Pen-ôl
-
Gwaelod y coesau
2
Manteision Allweddol Body Ballancer
Mae The Body Ballancer yn cynnig amrywiaeth o fanteision gan gynnwys:
​
-
Lleihau problemau dal dŵr (a all hefyd helpu gyda cholli pwysau)
-
Gwella tôn croen
-
Lleihau ymddangosiad cellulite
-
Helpu i hybu'r system imiwnedd
-
Lleihau tensiwn a straen, gan adael i chi ymlacio
-
Lleihau llid ar ôl ymarfer corff
-
Hyrwyddo perfedd iachach
-
Gwella cylchrediad a all wella llosgi braster
-
Tynnu tocsinau o'r corff
-
Gwella'r system lymffatig a chylchrediad y gwaed
-
Yn lleihau chwydd
-
Dim ôl-ofal
-
Amser triniaeth tua 30-60 munud
3
Sut mae’r Body Ballancer yn gweithio?
Yn ystod y driniaeth Body Ballancer, byddwch yn gwisgo dillad gwarchodedig patent arbenigol ar hanner isaf y corff, sy'n chwyddo i roi teimlad tylino meddal i gadarn, gan ganolbwyntio ar bob modfedd o'r ardal darged.
​
Defnyddir dillad cywasgu chwyddedig y Body Ballancer® i roi tylino ysgafn neu gadarn. Mae yna 24 o siambrau aer unigol ym mhob dilledyn, sy'n mynd ar draws ei gilydd i gyffwrdd yr ardal driniaeth.
Gan lifo o waelod y coesau i'r torso, mae'r symudiad tylino hwn yn cynyddu cylchrediad y gwaed ac yn gwagio’r ardaloedd problemus yn ysgafn ond yn drylwyr.
​
Yn ogystal â chyflymu cynnyrch gwastraff a thynnu gormodedd dŵr trwy'r system lymffatig, mae'r Body Ballancer® yn annog i chi ymlacio wrth hybu'r system imiwnedd.