
Triniaethau a Hyfforddiant
Rydym ni’n cynnig ystod eang o driniaethau harddwch ac esthetig i'ch helpu chi i deimlo'n fwy hyderus yn eich croen eich hun. Gweler isod am ein holl driniaethau sydd ar gael.
Rydym ni hefyd yn ymfalchïo mewn cynnig sesiynau hyfforddi o ansawdd uchel. Mae ein Hyfforddiant Esthetig ar gael i ymarferwyr cymwys yn unig mewn dosbarth 1-1 gyda Sarah. Gweler isod am fanylion.
Triniaethau

Triniaeth Gwrth-grychau
Cychwyn o £100
Ymlaciwr cyhyrau crychau cosmetig i’w chwistrellu. Rydym ni’n defnyddio tocsin botwlinwm math A, yn benodol OnaBotwlinwmTocsina, i barlysu cyhyrau dros dro. Mae hyn yn lleihau ymddangosiad crychau’r wyneb.

Llenwad Dermal
Cychwyn o £155
Mae llenwad i’w chwistrellu yn llenwad meinwe meddal sy’n cael ei chwistrellu i'r croen ar wahanol ddyfnderoedd i helpu i lenwi crychau wyneb, darparu trwch wyneb, ac ychwanegu nodweddion wyneb: gan adfer ymddangosiad llyfnach. Mae'r rhan fwyaf o'r llenwadau crychau hyn yn rhai dros dro gan eu bod nhw’n cael eu hamsugno gan y corff yn y pen draw.
Ardaloedd y gellir eu trin - Plygiadau Nasolabaidd (rhwng y trwyn a’r wefus) - Llinellau Marrionet - Bochau - Gên - Cafn Deigryn - Rhinoplasti Hylif - Llinell gên - Arlais

Ychwanegiad Gwefus
Cychwyn o £120
Mae ychwanegiad gwefus yn driniaeth gosmetig sy'n creu gwefusau llawnach, sy’n edrych yn ieuengach. Rydym ni’n cynnig gwahanol fathau o ychwanegiadau gwefus i gyd-fynd â'ch anghenion a'ch nodau fel y dechneg Nodweddiadol a’r dechneg Rwsiaidd. Rydym ni’n defnyddio cynhyrchion Juvaderm, Lumifill a Monalisa.

Atgyfnerthwyr Croen (Skin Boosters)
Cychwyn o £99
Mae atgyfnerthwyr croen yn driniaeth chwistrellu gyda’r bwriad o ddarparu hydradiad croen dwfn. Cyfeirir atynt weithiau hefyd fel pigiadau ar gyfer ansawdd y croen, gan eu bod nhw’n hyrwyddo gwrid a disgleirdeb naturiol.

Sculptra
Cychwyn o £400
Fel yr ysgogydd colagen i’w chwistrellu cyntaf - a gwreiddiol - sy'n cynnwys microronynnau o asid poly-L-lactig (PLLA-SCA), mae Sculptra yn helpu i adfer strwythur croen wyneb, a allai arwain at welliant croen hirhoedlog. Ar gyfartaledd, byddwch chi’n cael 2 i 3 sesiwn driniaeth dros ychydig fisoedd. Bydd nifer y pigiadau ym mhob sesiwn yn amrywio yn seiliedig ar y cynllun triniaeth y byddwch chi a'ch gweithiwr esthetig proffesiynol yn ei bennu. Fe wnaeth y rhan fwyaf o gyfranogwyr mewn astudiaeth glinigol weld canlyniadau cyn gynted ag 1 mis, gyda chanlyniadau parhaus am hyd at 2 flynedd. Gallwch weithio gyda'ch gweithiwr estheteg proffesiynol ar gynllun triniaeth. Mae triniaeth nodweddiadol yn 3 sesiwn sydd o leiaf 3 i 4 wythnos ar wahân.

LemonBottle
Cychwyn o £130
Mae LEMONBOTTLE yn gynnyrch Toddi Braster premiwm cyfansawdd newydd i’w chwistrellu sy'n wahanol i eraill ar y Farchnad. Mae ganddo gyfuniad unigryw o gynhwysion actif sydd nid yn unig yn gallu dinistrio'r gell braster ond sy’n gallu helpu i'w ysgarthu o'r corff yn fwy effeithlon.

Cryotherapi gyda Cryopen
Cychwyn o £55
Mae'r CryoPen yn arloesedd Cryotherapi datblygedig sy'n defnyddio oerfel eithafol (ocsid nitrus hylifol) i rewi a dinistrio meinweoedd briwiau croen. Mae'n gyflym, yn effeithiol ac yn ddatrysiad newydd datblygedig ar gyfer cael gwared ar amherffeithrwydd croen fel difrod haul, smotiau brown, smotiau oed, pigmentiad, tagiau croen, ferwcau a dafadennau ar bob rhan o'r corff.
Bellach nid yw llawer o driniaethau yn cael eu perfformio gan eich meddyg lleol / meddyg teulu lleol na'r GIG. Felly, mae'n dda gwybod, fel clinig croen cosmetig datblygedig, ein dulliau Cryotherapi diogel bellach yw'r ateb i nifer o'ch brychau neu bryderon croen.

Tynnu Mân Wythiennau
Cychwyn o £50
Gan ddefnyddio Electrolysis Uwch, dull a brofwyd ar gyfer trin mân wythiennau. Mae'n tynnu mân wythiennau gyda cherrynt trydanol. Mae nodwydd poeth fach iawn wedi’i diheintio yn cael ei rhoi ar y croen dros y fân wythïen, ac mae'r cerrynt yn cynhesu'r gwythiennau sydd wedi torri ac yn achosi iddynt serio

Pigiadau Fitamin
Cychwyn o £30
Mae pigiadau fitamin yn galluogi cyflenwi atchwanegiadau maethol allweddol gan gynnwys fitaminau neu wrthocsidyddion yn uniongyrchol i'r corff trwy'r gwythiennau, lle gellir eu hamsugno a'u cyflwyno'n gyflym trwy'r system wythiennol.
Rydym ni’n cynnig: B12, Fitaminau C, Biotin, Fitamin D, Atal Clefyd y Gwair

Pilio Meddygol AlumierMD
Cychwyn o £85
Mae pilio cemegol AlumierMD yn gweithio trwy sgrwbio haenau wyneb y croen yn ddwfn gan orfodi eich corff i'w adnewyddu'n gyflym â chelloedd newydd. Pan fydd pilio’n cael ei berfformio'n rheolaidd, mae'r croen yn dod i arfer â'r broses hon ac yn dechrau adfywio ei hun gan hyrwyddo gwrth-heneiddio, adfywio a thynhau’r croen.

HydroFacial
Cychwyn o £85
Mae ein triniaeth anfewnwthiol, wedi'i phersonoli yn mynd i'r afael â'ch pryderon croen unigryw, gan eich gadael yn edrych ac yn teimlo'n ddisglair.
Mae pob Hydrafacial yn cynnwys y tri cham syml hyn - ond mae'n cynnig ffyrdd diddiwedd i bersonoli yn seiliedig ar eich nodau croen.
-
Glanhau
Yn glanhau ac yn sgrwbio’n ddwfn gyda philio ysgafn i ddatgelu haen newydd o groen.
-
Echdynnu
Yn tynnu amhureddau o fandyllau gyda sugno ysgafn di-boen.
-
Hydradu
Yn trwytho wyneb y croen gyda lleithyddion dwys a chynhwysion maethlon, wedi'u personoli.

Purederma
Cychwyn o £150
Triniaeth croen nad yw'n llawfeddygol gan ddefnyddio micro-nodwyddo ac amledd radio i dargedu meysydd sy'n peri pryder yn union.
Mae PUREDERMA yn ymfalchïo mewn canlyniadau rhyfeddol ar gyfer gwrth-heneiddio, llyfnhau, llacrwydd croen, adfywio’r croen, llinellau mân a chrychau wrth gywiro creithiau ac olion ymestyn.
​

Dermalux
Cychwyn o £45
Croen hardd gweithredol, wedi'i harneisio gan olau. Mae Ffototherapi LED yn creu croen sy’n amlwg wedi'i adfywio, wedi'i fireinio ac sy’n ddisglair.
Gall cyfuno Dermalux â'n triniaethau eraill helpu i leihau'r risg o gymhlethdodau, lleihau'r risg o gleisio a chyflymu'r canlyniadau hyd at 200 gwaith.

Cwyro
Cychwyn o £10
Dydyn ni ddim eisiau brolio, ond mae ein cleientiaid wedi dweud wrthym ni dro ar ôl tro nad oes lle gwell i gael Cwyro o ansawdd uchel na'n Salon Esthetig. Trefnwch apwyntiad neu gallwch alw heibio pryd bynnag yr hoffech chi!

Tyllu Clustiau
Cychwyn o £30
Yn Sarah Lynne Aesthetics, rydym ni’n cynnig gwasanaeth tyllu i ardaloedd llabed a scaffa y glust gan ddefnyddio system di-haint Calfton.

Blew Amrannau ac Aeliau
Cychwyn o £10
Rydym ni’n cynnig ystod o driniaethau blew amrannau ac aeliau:
-
Cwyro aeliau
-
Lliwio aeliau
-
Aeliau HD
-
Aeliau Henna
-
Arlliwio Blew Amrannau

Body Ballancer
Cychwyn o £35
Gyda dillad arbennig wedi’u cynllunio i chwyddo’n ysgafn, gallwch chi fwynhau tylino hyfryd sy’n ysgogi eich system lymffatig wrth orwedd yn ôl ac ymlacio.
​
Gellir mynd i’r afael â nifer o bryderon iechyd ac esthetig yn effeithiol gyda Body Ballancer trwy ddefnyddio egwyddorion tylino â llaw sydd wedi eu profi i ddraenio lymffatig. Gall rhain gynnwys cellulite, problemau cadw dŵr, colli pwysau, dadwenwyno, tynhau, tôn croen gwael a threuliad swrth a all achosi chwyddo a bod yn anghyffyrddus.

Hyfforddiant
Yn Sarah Lynne Aesthetics addysg yw ein hangerdd.
Mae ein Cyrsiau Harddwch ar gael i Ddechreuwyr a Therapyddion cymwys sy'n dymuno magu hyder.
Mae ein Hyfforddiant Esthetig ar gael i ymarferwyr cymwys yn unig mewn dosbarth 1-1 gyda Sarah.
​
Byddwch yn dysgu'r holl dechnegau chwistrellu gan gynnwys defnyddio canwla i greu'r cyfuchliniau wyneb perffaith ac ychwanegiadau gwefusau.
Mae'r dosbarth hwn ar gyfer ymarferwyr uwch, mae'n rhaid iddynt fod yn hyderus eisoes o fewn eu rôl ond sy'n ceisio gwella eu sgiliau.
​
Am restr o gyrsiau ewch i'n system cadw lle ar-lein