Atgyfnerthwyr
Croen
Mae atgyfnerthwyr croen yn driniaeth chwistrellu gyda’r bwriad o ddarparu hydradiad croen dwfn. Cyfeirir atynt weithiau hefyd fel pigiadau ar gyfer ansawdd y croen, gan eu bod nhw’n hyrwyddo gwrid a disgleirdeb naturiol.

1
Beth yw atgyfnerthwyr croen?
Mae atgyfnerthwyr croen sy’n cael eu galw weithiau yn 'bigiadau ar gyfer ansawdd y croen', yn driniaethau wedi'u gwneud yn arbennig ac wedi’u cynllunio’n benodol i weinyddu sylweddau adfywio croen fel Asid Hyalwronig (HA), sy'n adfer y lleithder yn y croen, ac yn gwella hydwythedd, cadernid a disgleirdeb y croen.
2
Pwy sydd angen atgyfnerthwyr croen?
Fel arfer mae angen atgyfnerthwyr croen gan bobl sy’n 25 mlwydd oed a hÅ·n. Mae hyn oherwydd mai bryd hynny mae'r croen yn dechrau colli ei gynnwys colagen, ac mae colled mewn colagen yn awtomatig yn golygu colli cadernid, dwysedd, elastigedd y croen ac mae’r crychau cyntaf yn ymddangos. Mae pobl eraill sydd angen triniaeth atgyfnerthwyr croen yn bendant yn cynnwys:
-
Pobl â chroen sych wedi’i ddifrodi
-
Pobl â chrychau wyneb a mân linellau
-
Pobl ag wynebau llawn acne
-
Pobl â chroen rhydd a llac
3
Pa faterion croen mae atgyfnerthwyr croen yn helpu gyda nhw?
Gall atgyfnerthwyr croen helpu i gywiro materion croen cyffredin, fel smotiau oed, difrod haul, crychau a mân linellau. P'un a ydych chi eisiau newidiadau cynnil neu ddramatig i ymddangosiad eich croen, bydd ymgynghoriad â'n esthetegwyr profiadol yn helpu i benderfynu pa driniaeth fydd yn gweithio orau ar gyfer eich anghenion penodol chi.
4
Pa fath o atgyfnerthwyr croen ydych chi'n eu defnyddio?
Rydym ni’n defnyddio'r mathau canlynol o atgyfnerthwyr croen:
-
Profhilo
-
Lumieyes